As the New Year beckons, the Welsh Conservative Assembly group will be hitting the ground running, following the publication of the Welsh Government’s draft budget at the very end of the last term. Sadly, the budget is a missed opportunity to deliver transformative change in Wales, despite seeing an additional £600m coming from the UK government earlier this year.
Alongside the Welsh Government’s budget, there’s also the local government settlement, which again sees some of Wales’ more rural authorities once again struggling to make ends meet. Of course, my Assembly colleagues and I will continue to push the Welsh Government to review the funding formula and recognise the challenges faced by councils that deliver public services over large rural areas.
2020 might be starting with a series of big political debates in Wales, but of course, there’s always room for a bit of fun this year too. We’ve got the Six Nations in February (one of my favourite calendar highlights!), the Royal Welsh Show in July – and there’s always our Eisteddfod, which will be held in Tregaron in August.
Of course, my team and I will be out and about, laying out our stall ahead of the Welsh Parliamentary elections in 2021. The Welsh Conservative Assembly group will continue to promote a positive agenda for change in Wales - campaigning on a platform to promote accountability, boost localism, empower people and support businesses. We’ll be rising to the challenge – and we welcome any and all support for our cause.
And so, I’d like to wish everyone a Happy New Year to you and your families. We have an opportunity to build on our successes of 2019 and lay some important groundwork for the Assembly elections in 2021.
Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd.
Paul Davies AM
Leader of the Welsh Conservatives
Neges Flwyddyn Newydd
Wrth i’r Flwyddyn Newydd agosáu, bydd grŵp Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig yn bwrw’n sydd iddi, yn dilyn cyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar ddiwedd y tymor diwethaf. Yn anffodus, collwyd cyfle gyda’r gyllideb i sicrhau newid trawsffurfiol yng Nghymru, er gweld £600 miliwn ychwanegol yn dod gan Lywodraeth y DU yn gynharach eleni.
Law yn llaw â chyllideb Llywodraeth Cymru, mae’r setliad llywodraeth leol hefyd, sydd eto’n gweld rhai o awdurdodau mwyaf gwledig Cymru yn cael anhawster cael dau ben llinyn ynghyd. Wrth gwrs, bydd fy nghydweithwyr yn y Cynulliad a minnau yn dal ati i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r fformiwla cyllid a chydnabod yr heriau sy’n wynebu’r cynghorau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig mawr.
Efallai y bydd 2020 yn dechrau gyda chyfres i drafodaethau gwleidyddol mawr yng Nghymru, ond yn amlwg, mae lle bob amser i gael tipyn o hwyl hefyd. Mae’r Chwe Gwlad ym mis Chwefror (un o uchafbwyntiau fy nghalendr i!), y Sioe Fawr ym mis Gorffennaf - ar Eisteddfod, a gynhelir eleni yn Nhregaron ym mis Awst.
Wrth gwrs, bydd fy nhîm a minnau allan ar hyd a lled y wlad cyn etholiadau Seneddol Cymru yn 2021. Bydd grŵp Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i hyrwyddo agenda gadarnhaol ar gyfer newid yng Nghymru – gan ymgyrchu ar lwyfan i hyrwyddo atebolrwydd, hybu gwaith lleol, grymuso pobl a chefnogi busnesau. Byddwn yn ymateb i’r her – ac yn croesawu unrhyw gefnogaeth i’n hachos.
Felly hoffwn ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i chi a’ch teulu. Mae gennym gyfle i adeiladu ar ein llwyddiant yn 2019 a gwneud gwaith pwysig i osod y sylfeini ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn 2021.
Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!
Paul Davies AC
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig